image

Ffôn: (01248) 422350 | ebost: 6602228_pennaeth.parcybont@hwbcymru.net
Pennaeth: Mr Iwan Wyn Taylor | Ysgol Parc Y Bont, Llanddaniel Fab, Ynys Môn LL60 6HB

Toggle Menu
  • English
  • Hafan
  • Newyddion
  • Plant
    • Gwaith Cartref
    • Themau
    • Wal Wobrwyo
    • Albwm
    • Wal Fideo
    • Gemau
    • Urdd
    • Clwb Hwyl ar ôl Ysgol
  • Ysgol
    • Gwybodaeth
    • Staff
    • Ysgol Masnach Deg
    • Ysgol Iach
    • Ysgol Eco/ Werdd
    • Cyngor Ysgol
    • Llywodraethwyr
    • Adroddiad Estyn
    • Gwyliau Ysgol
  • Rhieni
    • Cysylltu
    • Gwybodaeth
    • Llythyrau
    • Cymdeithas Rhieni ac Athrawon
    • Bwydlen Ysgol
    • Adnoddau
  • Cysylltu
  • Noddwyr

top-pic

Newyddion

05/07/21 - Neges  gan y Corff Llywodraethol:

Oherwydd secondiad y Pennaeth Mr Iwan Wyn Taylor i GwE o fis Medi ymlaen, mae panel penodi’r Corff Llywodraethol wedi bod yn recriwtio a phenodi Pennaeth Mewn Gofal i’r ysgol. Yn dilyn cyfweliad llwyddiannus, mae Mr Rhys Ynyr Jones wedi ei ei benodi i’r swydd. O ganlyniad i hyn, rydym ar hyn o bryd yn ymgymryd â’r broses o recriwtio a phenodi athro/athrawes CA2 dros dro. Bydd diweddariad ar y mater yn dilyn penodiad i’r swydd.

Dymuna’r Llywodraethwyr pob llwyddiant i Mr Jones a Mr Taylor efo’u cyfrifoldebau newydd.


WYTHNOS CHWARAEON 24/5/21 – 28/5/21


Mae un o’n pwyllgorau plant sef ‘Ffrindiau Ffitrwydd a Lles’ wedi bod yn brysur yn trefnu wythnos chwaraeon ar gyfer yr ysgol gyfan yn ystod yr wythnos 24/5/21 – 28/5/21.

Bydd gweithgareddau chwaraeon amrywiol bob dydd, gydol yr wythnos, felly gofynnwn yn garedig i chi sicrhau fod eich plentyn yn gwisgo dillad ymarfer corff o dan ei wisg/siwmper ysgol ac yn gwisgo esgidiau ymarfer addas bob dydd. Bydd arnynt angen potel ddŵr yn ogystal.

Sesiynau Chwaraeon ar ôl ysgol gyda ‘Kick It’ (Derbyn – Bl.6)
Yn dilyn llacio’r cyfyngiadau yn gysylltiedig â Covid-19, rydym yn dychwelyd i gynnal rhai sesiynau chwaraeon ar ôl ysgol. Unwaith eto, rydym yn defnyddio cwmni ‘Kick-it’ i ddarparu’r sesiynau yn yr ysgol.

Cewch ragor o wybodaeth wrth wylio’r fideo yma
I archebu lle a thalu’r ffî – dilynwch y ddolen yma er mwyn llenwi’r ffurflen yma

Noder, os gwelwch yn dda, mai cwmni ‘Kick-It’ sydd yn delio â’r gwaith gweinyddol ac nid yr ysgol.

Amseroedd a Dyddiadau sesiynau Kick-it:
Blynyddoedd 3, 4, 5 & 6 (3:15yp - 4:30yp)
D. MERCHER 9 Mehefin
D.MERCHER 16 Mehefin
D.MERCHER 23 Mehefin
D.MERCHER 30 Mehefin

Derbyn, Blwyddyn 1 & 2 (3yp - 4:15yp)
D.GWENER 11 Mehefin
D.GWENER 25 Mehefin
D.GWENER 2 Gorffennaf
D.GWENER 9 Gorffennaf

Mae’r dyddiadau yma ar ein calendr ar wefan yr ysgol.



19/04/21 - Nosweithiau Rhieni 27 & 28 Ebrill

Canllawiau ar gyfer trefnu apwyntiad yma


BWYDLEN HAF 202126/03/21 - BWYDLEN HAF 2021

 

Cliciwch yma i weld beth sydd ar y fwydlen newydd Y Haf


Amserlen Dychwelyd i'r Ysgol (Cyfnod Sylfaen)

Dyma ein hamserlen ar gyfer dychwelyd y cyfnod sylfaen yn ôl i’r ysgol ar ôl hanner tymor:

Dydd Llun 22/2/21: Darpariaeth Dysgu o Bell (gwaith ar-lein)
Dydd Mawrth 23/2/21: Darpariaeth Dysgu o Bell (gwaith ar-lein)
Dydd Mercher 24/2/21: Darpariaeth Dysgu o Bell (gwaith ar-lein)
Dydd Iau 25/2/21: Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 1
Dydd Gwener 26/2/21: Derbyn, Blwyddyn 1, Blwyddyn 2
Dydd Llun 1/3/21 ymlaen: Pob disgybl cyfnod sylfaen i fynychu yn unol â’r arfer

Rhagor o fanylion yn y llythyr – gweler y llythyr yma



dysgu o bellCanllawiau Dysgu o Bell ar gyfer rhieni

 

Canllawiau Dysgu o Bell ar gyfer rhieni – Cliciwch yma


Darpariaeth Gofal i blant gweithwyr allweddol a phlant bregus / o dan anfantais

Hoffem atgoffa rhieni yn garedig o'r arweiniad gan Lywodraeth Cymru parthed mynediad i ddarpariaeth gofal mewn ysgolion. Cewch hyd i’r canllawiau yma (cliciwch y ddolen). Mae niferoedd uchel sydd yn mynychu’r ddarpariaeth yn trechu amcan y cyfnod clo presennol - felly gofynnwn i chi barchu canllawiau'r Llywodraeth os gwelwch yn dda. Dim ond pan nad oes dewis arall y dylid anfon eich plentyn i ddarpariaeth gofal yr ysgol. Wedi dweud hyn, pan nad oes opsiwn arall, bydd y ddarpariaeth ar gael i chi yn ystod diwrnodau ysgol. Rydym yn parchu fod sefyllfa pob teulu yn unigryw ac mae’r Pennaeth wedi trafod rhai sefyllfaoedd gyda rhai rhieni ac o ganlyniad wedi cytuno mynediad i’r plant i ddarpariaeth gofal er lles y plentyn/plant.

Bydd ffurflen archebu lle yn y ddarpariaeth gofal yn cael ei hanfon ar ddydd Llun (yr wythnos flaenorol) a rhaid ei llenwi erbyn nos Iau, gan fod yn rhaid i'r ysgol gynllunio ar gyfer yr wythnos i ddilynol. Dyma’r ffurflen ar gyfer wythnos nesaf (wythnos yn dechrau 25/1):

Fel arfer, cofiwch gysylltu’n syth os allwn fod o unrhyw help i chi, neu os ydych eisiau trafod unrhyw fater neu bryder. Diolch yn fawr.


Google Meet, Cytundeb a Chod Ymddygiad Cyfarfodydd Byw Ar-lein

Mae angen i bob rhiant ddarllen llythyr a anfonwyd allan ynglyn â sesiynau ‘Google Meet’ yn ogystal â chytuno gyda’r ‘Gytundeb a Chod Ymddygiad Cyfarfodydd Byw Ar-lein’ drwy lenwi’r ffurflen yma: Ffurflen Cod Ymddygiad


PWYSIG: Yn dilyn penderfyniad yr Awdurdod, ni fydd yr ysgol yn ail agor i ddisgyblion tan ddydd Llun 11eg Ionawr 2021. O ddydd Mawrth 5/1/21 i ddydd Gwener 8/1/21 bydd darpariaeth gofal ar gael i blant bregus a phlant gweithwyr allweddol rhwng 07:50 – 15:15, yn ogystal â gofal yn y Clwb Hwyl 15:15-17:15 (codir y ffi arferol am ddarpariaeth y Clwb Hwyl).

I’r perwyl yma, bydd rhaid i chi ein hysbysu os ydych chi angen y ddarpariaeth gofal drwy lenwi’r ffurflen yma ar-lein erbyn 9am 4/1/21 - dilynwch y ddolen i gwblhau a chyflwyno’r ffurflen.


01/12/2020 Llythyr CYNGOR YSGOL Banc Bwyd Dolig 2020

Llythyr CYNGOR YSGOL Banc Bwyd Dolig 2020

Calendr Adfent o Chwith

Calendr Adfent o Chwith

 

 

 

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth Llythyr Cyngor Ysgol

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth Calendr Adfent o Chwith


16/11/20 Sut i gefnogi eich plentyn i ddysgu darllen Cymraeg a throchi’r Gymraeg yn y cartref

Mae’r fideo yma yn hyrwyddo apiau buddiol y gellid eu defnyddio yn y cartref i gefnogi dysgu darllen Cymraeg a hefyd i gefnogi’r trochi yn y Gymraeg.

Rydym yn annog rhieni y Cyfnod Sylfaen i lawrlwytho a defnyddio holl apiau ‘Llyfrau Magi Ann’ i gefnogi’r camau cyntaf wrth ddysgu darllen. Edrychwch am ‘Magi Ann’ yn yr App Store a Play Store. Gwyliwch y fideo yma sydd yn hyrwyddo apiau eraill y gellid eu defnyddio hefyd yn y cartref i gynorthwyo gyda dysgu darllen a throchi’r Gymraeg megis ‘Tric a Chlic’, ‘Cyw Tiwb’ a ‘Selog’.

Os ydych chi angen rhagor o fanylion am adnoddau Cymraeg i’w defnyddio yn y cartref yna cysylltwch â’r athrawon o.g.y.dd.


PWYSIG: Mae dyddiad olaf ar gyfer ynysu staff a phlant YPyB (Cyfnod Sylfaen) wedi ei addasu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac wedi ei newid i Hydref 13eg, sy'n golygu y gallant ddod yn ol i'r ysgol ar Hydref 14eg.


Mynediad i’r Dosbarth Meithrin 2021 - Cliciwch yma i wneud cais
Dyddiad cau 01/02/2021


Dolenni a rhifau cyswllt defnyddiol:

Cyngor a gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru

Cefnogaeth gan Wasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (ADYaCh) Gwynedd ac Ynys Môn - mae adran newydd ar y wefan yn darparu cefnogaeth ac adnoddau i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd yn ystod cyfnod y Coronafirws. www.adyach.cymru

Tudalen Ysgolion Iach Môn

Mind Ynys Môn a Gwynedd – Cymorth Iechyd Meddwl: https://www.facebook.com/ynysmongwyneddmind/
info@monagwyneddmind.co.uk
01286 685 279

Golau Barnardo’s – Os yw eich plentyn yn cael trafferth gyda’i iechyd meddwl; e.e. gorbryder, iselder, ynysu cymdeithasol, chwalfa teulol; gall gwasanaeth Golau eich helpu yn ystod yr amser heriol yma: GOLAU@barnardos.org.uk / 07714754625
https://www.facebook.com/GolauBarnardosYnysMon/

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn Cymru: 0808 80 10 800
Gwasanaethau Trais Gorwel: 0300 111 2121

Nyrsys Ysgol: 0300 0853183

Llinell gymorth gwybodaeth i blant a phobl ifanc (yn cynnwys cymorth i blant sydd yn poeni am COVID 19): https://www.meiccymru.org

Llyfrgelloedd Ynys Môn: https://www.facebook.com/LlyfrgelloeddMonLibraries/


Newyddlen Ysgolion Iach Môn 22/05/20 Newyddlen Ysgolion Iach Môn

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth Newyddlen Ysgolion Iach Môn


Covid-19: Cefnogi Plant yn Ystod Hunan-Ynysu12/05/20 Covid-19: Cefnogi Plant yn Ystod Hunan-Ynysu

Pamffled gwybodaeth a chyngor gan y Gwasanaeth Seicoleg Addysgol i’ch sylw.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Cefnogi Plant yn Ystod Hunan-Ynysu


Ocsiwn24/04/20 Rydym yn Ysgol Ymgyrch Encompass

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


21/04/20 - Rhieni Cyfnod Sylfaen

Dyma glip fideo buddiol i’ch ymgyfarwyddo gyda’r ap ‘SeeSaw Class’

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 


Ocsiwn13/03/20 - Noson Ffilm

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Ocsiwn28/02/20 - Te P'nawn Cymreig - Dydd Mercher 4ydd Mawrth, 2yp

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Ocsiwn13/02/20 - Cylchlythyr Ysgol Parc y Bont Tymor y Gwanwyn 2020

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Ocsiwn17/12/19 - BWYDLEN GWANWYN 2020

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth



Ocsiwn10/12/19 - YMGYRCH CALENDR ADVENT O CHWITH Y CYNGOR YSGOL

Llythyr gan y Cyngor Ysgol



Ocsiwn02/12/19 -Neges gan y Cyngor Ysgol a’r staff:

Anrhegion Nadolig

Dros y blynyddoedd rydym fel staff wedi gwerthfawrogi eich anrhegion Nadolig yn fawr, ond eleni ein dymuniad yw i beidio â derbyn anrhegion Nadolig. Rydym yn llwyr ymwybodol fod y Nadolig yn gyfnod drud iawn o’r flwyddyn ac ein bod hefyd yn gofyn am gyfraniadau tuag at weithgareddau Nadolig yr ysgol. Os yw’r plant yn dymuno ysgrifennu cerdyn Nadolig neu ddod â chyfraniad i Fanc Bwyd Môn drwy ymgyrch y Cyngor Ysgol sef ‘Calendr Adfent o Chwith’, yna byddwn yn hynod ddiolchgar. Bydd bocs yn y dderbynfa i gasglu cyfraniadau (dim bwydydd ffres o.g.y.dd).

Diolch yn fawr iawn.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth



Ocsiwn25/11/19 - Diwrnod Enfys

Dydd Mercher 4ydd o Rhagfyr.

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth



Ocsiwn25/11/19 - Disgo Gwisg Ffansi

Nos Fercher 27ain o Dachwedd

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth



Ocsiwn08/11/19 - Llythur Plant Men Angen

Dyma poster ynglyn â threfniadau diwrnod Plant Mewn Angen gan y Cyngor Ysgol

Diolch yn fawr.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Ocsiwn08/11/19 - Cylchlythyr Ysgol Parc y Bont Hydref

Gweler ein cylchlythyr ddiweddaraf i'ch sylw. Mae'n cynnwys manylion pwysig am ddigwyddiadau y tymor yma.

Diolch yn fawr.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Ocsiwn30/09/19 - Llythyr Cymdeithas Rhieni Athrawon

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Ocsiwn30/09/19 - Noson Ffilm

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth



Ocsiwn10/09/19 - Gwyl Mabsant

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Ocsiwn06/09/19 - Llythyr Medi 2019

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Ocsiwn22/07/19 - Dadansoddiad Holiadur Rhieni Haf 2019

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


09/07/19 - Gwyliau Ysgol ac HMS 2019-2020
I weld y dyddiadau - cliciwch yma


14/06/19 - Ffair Haf
Cynhelir Ffair Haf ar Ddydd Mawrth 18fed o Fehefin 3.15-4.30 y.p. (ar ôl Mabolgampau) - cliciwch yma.


10/06/19 - Bythefnos Chwaraeon a Byw yn Iach
I weld ein Hamserlen ‘Bythefnos Chwaraeon a Byw yn Iach’ cliciwch yma. Bydd y plant angen dillad ac esgidiau ymarfer corff bob dydd dros y bythefnos nesaf.


21/05/19 - Llywodraeth Cymru yn cyflwyno system newydd
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno system newydd, symlach a mwy ymatebol i fodloni anghenion plant sydd ag anableddau neu anghenion addysgol arbennig. Bydd y newidiadau hyn yn digwydd yn raddol dros y blynyddoedd nesaf. Cliciwch yma i ddarllen y llythyr.


07/05/19 - Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Yr ydym yn y broses o wneud cais am arian drwy'r gronfa yma er mwyn cael adnoddau newydd ar dir yr ysgol a fydd yn ehangu defnydd o'r safle ar gyfer digwyddiadau cymunedol. Yr ydym yn chwilio am eich syniadau ar gyfer sut y byddech yn hoffi gweld hyn yn cael ei ddatblygu. Drwy gael nifer o ymatebion gan y gymuned, bydd hyn yn cryfhau ein cais. Felly, ymatebwch i’r ymgynghoriad ar Facebook yr ysgol neu ebostiwch eich syniadau os gwelwch yn dda.


07/05/19 - Caerdydd & Glan Llyn
Mae holl luniau taith Bl.5a6 i Gaerdydd a Bl.3a4 i Glan Llyn mewn albwm yma. Cafodd y plant amser a phrofiadau gwerth chweil fel arfer!


Bwydlen09/04/19 - Bwydlen newydd tymor yr Haf

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Ocsiwn13/03/19 - Ocsiwn

Nos Wener Mawrth 15fed - 7.00yh

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


11/03/19 - Ocsiwn Addewidion
Cofiwch gefnogi ein Ocsiwn Nos Wener yma 15/3/19 am 7pm yn yr Outbuidlings, Llangaffo – Tocynnau £6 i’w cael drwy’r ysgol


25/02/19 - Ocsiwn Addewidion
Mawrth 15fed 2019
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


25/02/19 - Cylchlythyr Parc y Bont Gwanwyn 2019
Cliciwch yma i ddarllen y Cylchlythyr.


Bingo21/01/19 - Bingo

Nos Fercher Ionawr 23ain - 6:30yh

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


21/12/18 - Newyddlen Parc y Bont Rhagfyr 2018
Cliciwch yma i ddarllen y newyddlen.


19/12/18 - Bwydlen newydd y Gwanwyn
I weld beth sydd ar y fwydlen newydd y Gwanwyn - Cliciwch yma


19/12/18 - Cinio Nadolig
Caiff y disgyblion Meithrin aros yn yr ysgol drwy’r dydd. Pris cinio ysgol yw £2.40.


18/12/18 - Panto - Cinderella
Derbyn – Bl.6: Byddwn yn dychwelyd i’r ysgol erbyn tua 5pm. Rydym yn gofyn yn garedig am gyfraniad o £15 i’w dalu ar Schoolcomms erbyn dydd Gwener os gwelwch yn dda.


17/12/18 - Parti Nadolig
Caiff y plant wisgo dillad parti / dillad eu hunain ac fe fyddant yn cael mwynhau disgo ac ymweliad gan Siôn Corn! Caiff y dosbarth Meithrin aros drwy’r dydd.


14/12/18 - Bl.1 a 2 – Amgueddfa Lechi Llanberis
Bydd y disgyblion yn ymweld ag Amgueddfa Lechi Llanberis fel rhan o’u gwaith thema fore Gwener yma. Byddant yn ôl i ginio. Gofynnwn yn garedig iawn am £3 o gyfraniad tuag at y bws os gwelwch yn dda i’w dalu ar-lein.


14/12/18 - Diwrnod Siwmper Nadolig Elusen Achub y Plant 2018
Dydd Gwener NESAF 14/12/18 ydi Diwrnod Siwmper ‘Dolig Elusen Achub y Plant 2018. Gofynnwn am gyfraniad o £1 tuag at yr elusen os gwelwch yn dda. Caiff y plant wisgo eu siwmperi Nadolig ar ddydd Gwener 21/12 hefyd am hwyl (ni fyddwn yn gofyn am gyfraniad)!


Christmas Fair23/11/18 - Ffair Nadolig

Dydd Gwener Tachwedd 30ain

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Bwydlen23/10/18 - Bwydlen newydd yr Hydref

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


noson gwricwlaidd27/09/18 - Noson Gwricwlaidd

Rhieni: Meithrin – Bl.2 - 6pm

Cyflwyniad ar sut i gefnogi eich plentyn i ddatblygu sgiliau darllen a sgiliau iaith Gymraeg adref

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


10/09/18 - Urdd
Cynhelir sesiynau Urdd pob nos Lun tan 4.15 yp ar gyfer disgyblion Derbyn – Bl.6. Mi fydd y sesiwn gyntaf nos Lun 17/9/18, gyda’r sesiwn olaf ddydd Llun 10fed o Ragfyr. I fod yn rhan o weithgareddau’r Urdd yn cynnwys eu holl weithgareddau a chystadleuthau chwaraeon, bydd rhaid ymaelodi â’r Urdd ar eu gwefan www.urdd.cymru/ymuno gan ofalu dewis Ysgol Parc y Bont ar y ffurflen.


poster22/8/18 - Gwyl Mabsant Llanddaniel Fab 22/9/18

Bydd y diwrnod yn cynnwys:
- Bore Coffi - Yr Efail
- Helfa Drysor
- Performiadau Byw
- Castell Neidio
- Paentio Gwynebau
- Stondinau Gwyboaeth
- Gweithgareddau Amrywiol
- Hog Roast
- .........a llawer mwy

Bydd y dydd yn cael ei gynnal mewn 3 lleoliad penodol:
- Ysgol Parc y Bont
- Yr Efail - wedi'w hadnewyddu gan Trigolion
- Ystafell Cymunedol Tan y Capel

Cadwch lygaid allan am fwy o fanylion!


Noson Bingo19/01/18 - Noson Bingo

CRhA - BINGO 23/1/18 6pm

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Noson Ffilm24/11/17 - Ffair Nadolig

Ffair Nadolig
Ysgol Parc Y Bont
Dydd Gwener 1af Rhagfyr 3.15 – 5.00

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


19/10/17 - Galwad am Ymarferwyr Creadigol
Mae Ysgol Parc y Bont yn Ysgol Greadigol Arweiniol - Rydym yn chwilio am ddau Ymarferydd Creadigol yn Mharc y Bont a fydd yn gweithio gyda'r digyblion yn wythnosol am o leiaf 7 sesiwn am £250 y diwrnod. Dyddiad cau 26/10/17. Cliciwch ar y linc am ragor o wybodaeth. - cliciwch yma


Noson Ffilm 19/10/17 Noson Ffilm

Drysau yn agor 5.45pm

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


11/9/17 - Llythyr Croeso
Gwybodaeth Pwysig - cliciwch yma


31/8/17 - PWYSIG
Mae’r gwaith ar yr estyniad, y maes parcio a’r iard wedi ei ddechrau. Yn anffodus oherwydd rhesymau y tu hwnt i reolaeth y contractwyr, ni fydd y maes parcio yn barod ar gyfer dydd Llun! Mae’r contractwyr wedi gaddo y bydd y gwaith ar y maes parcio wedi’i orffen erbyn 8fed o Fedi. Felly, ni ellir defnyddio’r maes parcio yn ystod yr wythnos gyntaf ac fe fydd yna lwybr i gerddwyr o’r giât i flaen yr ysgol.

Yn ystod amseroedd y Clwb Brecwast a rhwng 8.40-8.50 bydd y staff yn goruchwylio y plant yn cerdded o’r giât at y drws fel y gall rhieni ollwng eu plant wrth giât y maes parcio. Bydd rhaid i bob disgybl ddefnyddio drws yng nghefn y neuadd. Dim ond rhieni newydd / rhieni plant Meithrin gaiff fynediad i fewn i’r ysgol/dosbarth. Gofynnwn yn garedig i’r rhai a all gerdded i’r ysgol i wneud hynny plîs. Os ydych yn parcio ar ochr y ffordd / yn y pentref, plîs peidiwch â rhwystro unrhyw ddreif ac rydym yn ymddiheuro i’r trigolion lleol am unrhyw anghyfleustra a all godi o hyn. Byddwn yn hebrwng y plant yn ddiogel at rieni ddiwedd y dydd. Rhagor o wybodaeth i ddilyn. Diolch o flaen llaw am eich cydweithrediad lawn ar y mater yma.


20/7/17 - Neges gan y Corff Llywodraethol
Ar ddiwedd blwyddyn ysgol lwyddiannus arall yn Ysgol Parc y Bont, hoffai’r Corff Llywodraethol ddiolch i chi fel rhieni am eich cefnogaeth cyson.

Mae’r flwyddyn nesaf yn flwyddyn brysur i’r ysgol, gyda newidiadau mawr ar droed – gwaith adeiladu ac ymestyn yr ysgol, y Cylch Meithrin yn dechrau, a’r ysgol yn cymryd cyfrifoldeb dros y Clwb Hwyl ar ôl Ysgol. Yr ydym yn edrych ymlaen i’ch cynrychioli chi dros y cyfnod sydd i ddod.

Yn ogystal, hoffem rannu newyddion da gyda chi. Roedd Mr Iwan Taylor yn bennaeth mewn gofal am gyfnod penodedig o ddwy flynedd. Yn ddiweddar, bu Mr Taylor yn llwyddiannus yn ymgeisio am swydd barhaol, ac felly ef fydd Pennaeth Ysgol Parc y Bont o hyn ymlaen. Rydym yn siwr y byddwch yn cytuno y bydd hyn yn dod â pharhad a sefydlogrwydd i’r ysgol, a bydd ei arweiniad ardderchog yn mynd yn ei flaen dros y blynyddoedd sydd i ddod.


17/7/17 - Canlyniadau’r profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol
Dehongli canlyniadau’r profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol - canllaw animeiddiedig i rieni/gofalwyr

Cliciwch yma i weld y fideo


17/7/17 - Holiadur rhieni
Cofiwch lenwi ein holiadur rhieni a'i ddychwelyd erbyn dydd Iau plis. Diolch yn fawr


plant07/7/17 - Disgo Haf
Disgo Haf, Nos Fercher 19eg o Orffennaf, 6 – 7.30 pm - cliciwch yma


22/5/17 - Noson Ffilm 23/5/17
Noson Ffilm 23/5/17 - wedi'i ganslo yn anffodus!


plant22/5/17 - Canllaw newydd Môn Dewch i Chwarae
Llyfryn 'Môn Dewch i Chwarae'. Dyma ganllaw gwych i lefydd chwarae ym Môn. Ewch â'ch plentyn allan i chwarae yn yr awyr agored! I weld mwy o wybodaeth - cliciwch yma


28/4/17 - Gwybodaeth i rieni/gofalwyr Blwyddyn 2-9 – Profion Darllen a Rhifedd yng Nghymru
Dyma ganllaw yn rhoi gwybodaeth i rieni/gofalwyr yn egluro beth yn union yw'r profion a sut yr adroddir ar y canlyniadau.

http://learning.gov.wales/resources/browse-all/reading-and-numeracy-tests-information-for-parents-carers/?skip=1&lang=cy


plant9/3/17 - Mynydd Gwefru
Cafodd Blwyddyn 5 a 6 ddiwrnod gwych yn y Mynydd Gwefru Llanberis yn dysgu am ynni a chreu 'jitterbug' drwy adeiladau eu cylched trydan eu hunain. Gweler y lluniau yma!


plant4/3/17 - Eisteddfod Cylch Glannau Menai
Cafwyd digon o hwyl a llwyddiant yn Eisteddfod Cylch Glannau Menai. Cafwyd perfformiadau gwych gan bawb, ymlaen â ni am y Sir! Diolch i bawb am eu cefnogaeth. Gweler y lluniau yma!


plant3/3/17 - Gwasnaeth Gwyl Ddewi yr Adran Iau
Gweler y lluniau yma!


plant28/2/17 - Tesco
Aeth Bl. 1a2 i Tesco Bangor i ddysgu am yr hyn sy’n digwydd mewn archfarchnad ac i ddysgu am y gwahanol fwydydd sy’n cael eu gwerthu yno. Diolch i’r staff am eu croeso a’r addysg. Gweler y lluniau yma!


plant14/2/17- Rhaglenni Radio
Bu Bl.3 a 4 yn cynllunio a recordio rhaglenni radio Cymraeg gyda’r Urdd. Profiad gwerth chweil! Ewch ar tudalen Facebook yr ysgol neu Urdd Ynys Môn. Gweler y lluniau yma!


plant13/2/17 - Siarter Iaith
Bu Owen a Harri, Arweinyddion Siarter Iaith gyda Mr Taylor yng Ngwesty Treysgawen mewn cyfarfod gwobrwyo arbennig i dderbyn gwobr Cam Efydd y Siarter. Rydym eisioes wedi gosod targedau i ni ein hunanin ac yn cynllunio at gyrraedd y Cam Arian. Mae’r Gymraeg a dathlu Cymreictod yn hollbwysig yma ym Mharc y Bont.


10/2/17 - Pêl Droed
Diolch i dîm pêl droed Llanfairpwll am ddod draw i chwarae gêm gyfeillgar. Buddugoliaeth i Barc y Bont oedd hi ac roedd hi yn braf manteisio ar gyfle i blant y dalgylch ddod at ei gilydd.


plant8/2/17 - Cwn Tywys
Yn rhan o waith thema Blwyddyn 3 a 4, daeth Buddug, Elin a'u cwn tywys i ddosbarth Bl. 3 a 4 i roi cyflwyniad a sgwrsio am waith pwysig y cwn arbennig yma. Roedd y plant wrth eu bodda yn rhoi sylw i’r cwn ac yn holi cwestiynau di-rifedi i’w perchnogion! Gweler y lluniau yma!


plant6/2/17 - Carchar Biwmares
Ymwelodd Bl.5 a 6 â Charchar Biwmares fel rhan o’u gwaith thema ‘Arwyr a Dihirod’, peidiwch â phoeni chafodd yr un plentyn eu gadael ar ôl yn y carchar tywyll du – plant da sy’n Mharc y Bont!! Gweler y lluniau yma!


plant20/01/17 - Pel Droed
Daeth Ysgol y Ffridd Gwalchmai yma i chwarae gêm bêl droed yn erbyn tîm yr ysgol yn rownd gyntaf twrnament Tarian Albert Owen. Curodd Parc y Bont y gêm o 4 gôl i 1. Ffantastig hogia'!!


09/01/17 - GWERSI NOFIO BL. 3-6
Bob bore Mercher 11/1/17 – 22/3/17 (10 sesiwn) ym Mangor.
Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £2 y sesiwn (neu £20 am y 10 sesiwn) i dalu costau cludiant plîs. Gallwch wneud un taliad am bob sesiwn (£20) ar-lein ar ein system talu ar-lein ‘Schoolgateway’. Diolch.

Cliciwch yma i ddarllen y llythyr


14/12/16 - Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda
Dymuna'r Pennaeth a holl staff yr ysgol Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chwi oll. Diolch o galon i chi am eich haeloni eto y Nadolig hwn ac hefyd eich cydweithrediad a'ch cefnogaeth yn ystod y tymor prysur hwn.


plant13/12/16 - Cinio Nadolig
Cafwyd Cinio Nadolig blasus a bendigedig eto eleni. Diolch Anti Mari a Mrs Woolley. Gweler y lluniau yma!


plant12/12/16 - Parti Nadolig
Cafwyd Parti Nadolig gwerth chweil ble y bu'r plant yn dawnsio'i hochr hi drwy'r p'nawn. Hefyd daeth y dyn ei hun am dro sef Siôn Corn!! I weld mwy o luniau - cliciwch yma


plant5/12/16 - Sioeau Nadolig
Lluniau o'r Sioeau Nadolig 'Jac a'r Jereniym' a 'Nadolig yn Rwla' i'w gweld yma


plant18/11/16 - Plant Mewn Angen
Casglwyd / We raised £176!! Diolch yn fawr!! I weld mwy o luniau - cliciwch yma


15/11/16 - Cynrychiolwyr rhieni newydd ar y Corff Llywodraethol
Cynrychiolwyr rhieni newydd ar y Corff Llywodraethol: Mrs Sian Eleri Roberts a Dr Sara Elin Roberts.


20/10/16 - TALIADAU AR-LEIN
Mae’r gwasanaeth gwneud taliadau ar-lein bellach ar gael. Bydd angen i chi gofrestru er mwyn creu cyfrif ar porthysgol drwy glicio fel defnyddiwr newydd. Bydd angen i chi roi eich cyfeiriad e-bost a’r rhif symudol sydd gennym wedi ei gofnodi ar eich cyfer yn yr ysgol.


image14/10/16 **URDD**
Cynhelir sesiynau Urdd ar nos Lun ar y dyddiadau canlynol am y tymor yma i’r Derbyn i Flwyddyn 6 3.00-4.15pm :

17 /10/ 16      7/11/ 16        21 / 11 / 16        28 / 11 / 16        12 / 12 / 16

Maent i blant sydd wedi ymaelodi â’r Urdd yn unig. Y gôst ydy £7 am y flwyddyn. Nid oes rhaid ymaelodi erbyn y sesiwn 1af.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 


image 28/09/16 - 'The Beatles Story'
Aeth Blwyddyn 5 a 6 wedi yn ôl mewn amser i gael profiad o fywyd a cherddoriaeth y 60au i gyd-fynd â gwaith thema'r dosbarth yn ystod eu ymweliad ag amgueddfa 'The Beatles Story' yn Lerpwl.

I weld mwy o luniau - cliciwch yma


image27/09/16 - Disgyblion Newydd
Dyma griw newydd o blant Parc y Bont! Croeso mawr i'r ysgol blantos!


image22/09/16 - Diogelwch Tân
Cafodd Bl.1 a 2 a Bl. 5 a 6 gyflwyniad 'Diogelwch Tân' ble yr oeddynt yn trafod sut i gadw yn ddiogel rhag tân yn y cartref a beth i'w wneud mewn argyfwng tân.


image22/09/16 - SCCH Wendy
Daeth SCCH Wendy i fewn at Bl.5 a 6 i drafod e-ddiogelwch gan drafod sut i gadw'n ddiogel ar-lein a pheryglon gwefannau cymdeithasol ar y wê.


image 23/05/16 - Rhyd Ddu
Cafodd Blwyddyn 3 a 4 amser wrth eu boddau yn aros yng Nghanolfan Awyr Agored Rhyd Ddu gyda Mr Taylor, Miss Williams, Anti Kath a Anti Mandy. Buont yn brysur yn cerdded, cyfeiriannu yng nghoedwig Beddgelert, adeiladu llochesi, dringo a chanwio ar Llyn Padarn. Cawsant gyfle hefyd i fynd am dro i Feddgelert a chael hufen iâ yn yr haul. Braf!

I weld mwy o luniau - cliciwch yma


imageBand Parc y Bont
Gyda diolch i Miss Bethan Evans mae yna fand addawol iawn wedi dechrau yn yr ysgol. Mae band Parc y Bont yn ymarfer bob p’nawn Llun.


image10/05/16 - Glan Llyn
I Glan Llyn aeth Blwyddyn 5 a 6 ar eu hymweliad antur eleni gyda Mr Rhys Ynyr Jones eu hathro ac Anti Mandy. Cawsant amser gwerth chweil yn gwneud gwahanol weithgareddau dwr megis canwio ac adeiladu rafft, dringo, cwrs rhaffau, saethyddiaeth, cyfeiriannu, helfa drysor a chwaraeon a gemau dan dô. Roedd y plant yn byrlymu gyda hanesion ar ôl cyrraedd yn ôl i’r ysgol!

I weld mwy o luniau - cliciwch yma


image09/05/2016 - Gwyl Chwaraeon yr Urdd
Llongyfarchiadau MAWR i Joseff a Harri Morgan am eu llwyddiant yn y rasys trawsgwlad cenedlaethol yng Ngwyl Chwaraeon yr Urdd yn Aberystwyth ddydd Sadwrn. Daeth Joseff yn 2il yn ras Bl.6 a Harri yn 2il yn ras Bl.5. Mae pawb ym Mharc y Bont yn falch ohonoch!


image09/05/2016 - Buddugoliaeth yn rownd yr wyth olaf
Mae tîm pêl droed yr ysgol yn mynd ymlaen i rownd gynderfynol Tarian Albert Owen yn erbyn Ysgol Llanfair ar ôl buddugoliaeth o 3 gôl i 2 yn rownd yr wyth olaf yn erbyn Ysgol Amlwch! Ffantastig!

 

 

 

 

 

Hysbysiad Preifatrwydd | Hysbysiad Preifatrwydd – Plant a Phobl Ifanc

© 2022 Ysgol Parc Y Bont - Gwefan gan Delwedd.

Bookmark and Share