Cylch Meithrin
Cartref > Cymuned > Cylch Meithrin
Rydyn ni’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant ac felly’n ceisio darparu’r safon aur mewn profiadau blynyddoedd cynnar i bob plentyn yn ein gofal.
Rydym yn credu fod gan pob plentyn yng Nghymru yr hawl i Addysg Gymraeg. Trwy’r ddod i’n grŵp a derbyn cefnogaeth sydd ar gael mae modd i’ch plentyn ddilyn taith esmwyth a hyderus i addysg Gymraeg
Rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw hi i chi deimlo eich bod yn dewis yr addysg gorau i’ch plentyn, ac felly bydd eich plentyn yn derbyn y gofal a’r addysg gorau yn ein Cylch Meithrin ni. Cymraeg yw’r iaith yn ein Cylch Meithrin ond rydym yn rhoi croeso cynnes i bob plentyn, dim ots beth yw’r iaith sy’n cael ei siarad yn y cartref.
Nod ein cylch yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad ein staff proffesiynol, cyfeillgar a brwdfrydig.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd o waith y cylch neu am wybodaeth ynglyn â chofrestru eich plentyn mae croeso i chi gysylltu â ni.
Y Cylch
Mae’r sesiwn hon ar gyfer plant o 2 a hanner oed hyd nes y byddant yn dechrau yn yr ysgol yn rhan amser.
Mae’r Cylch yn elusen gofrestredig, mae hefyd wedi’i gofrestru dan Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn cael ei redeg gan staff y Cylch Meithrin -
- Victoria Ellis (Arweinydd),
- Katherine Hamson
- Stephanie Lloyd.
Gallwch gysylltu â’r Cylch drwy e-bost cylchmeithrinparcybont@gmail.com neu drwy ffonio 07435711072.
Gellir dod o hyd i'n hadroddiad arolygu diweddaraf (Mai 2024) trwy ymweld www.estyn.llyw.cymru/darparwr/6609157
Rhys Jones a Lowri Williams yw Unigolion Cyfrifol y Cylch a gellir cysylltu â nhw drwy e-bost cylchmeithrinparcybont@gmail.com.
Ein gweledigaeth yw bod plant yn chwarae’n hapus ochr yn ochr ag eraill, a bod pob plentyn yn cael yr un cyfleoedd i archwilio, tyfu a datblygu sgiliau sydd eu hangen arnynt i wneud y gorau o fywyd.
Lleolir y Cylch Meithrin ar safle'r ysgol ac mae cydweithio rhwng yr ysgol a'r Cylch yn golygu trosglwyddiad esmwyth i'r disgyblion. Mae pob plentyn yn cael y cyfle i elwa o brofiadau chwarae a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
PRYD: Dydd Llun - Dydd Iau 9:00 - 11:30
YN YSTOD AMSER TYMOR
RYDYM HEFYD AR GAU AR DDIWRNODAU HMS YR YSGOL
PRIS: £12 y sesiwn
Bydd angen i blant ddod â photel ddŵr a byrbryd iach gyda nhw.
Gofynnwn hefyd i bob plentyn newid dillad yn llwyr - rhag ofn!
Yn ystod tywydd braf rydym yn treulio llawer o amser yn ein hardal awyr agored felly gofynnwn i'r plant gael eli haul cyn iddynt gyrraedd yn y bore. Dylai plant ddod â het haul hefyd.
Oherwydd y gweithgareddau mae'r plant yn cymryd rhan ynddynt yn ystod y dydd, esgidiau ymarfer yw'r math gorau o esgidiau. Nid yw crocs yn cael eu hargymell a dim ond os yw'n gwbl angenrheidiol y dylech ystyried esgidiau glaw.
Os hoffech wneud cais am becyn cofrestru, ebostiwch y Cylch ar cylchmeithrinparcybont@gmail.com