Cefnogaeth
Rydym yn credu’n gryf bod angen cysondeb yn nysgu ein disgyblion. Hefyd rydym o’r farn ei bod hi’n bwysig eich bod chi fel rhieni yn gallu cefnogi eich disgyblion adref os oes angen. Mae’r dudalen yma yn dangos nifer o raglenni a gwefannau yr ydym yn eu defnyddio yn yr ysgol y gallech chi eu defnyddio adref.
Google Classroom
Mae Google Classroom yn ystafell ddosbarth ar-lein ar gyfer ein disgyblion. Rhennir ein disgyblion yn eu dosbarthiadau ac mae gwaith yn cael ei rannu a'i gwblhau ar y platfform hwn. Credwn fod Google Classroom yn arf ardderchog i’ch galluogi chi fel rhieni i weld beth mae eich disgyblion wedi bod yn ei astudio/gweithio arno yn yr ystafell ddosbarth, gweld eu cynnydd dros amser yn ogystal â rhoi unrhyw gymorth iddynt os oes angen. Mae Google Classroom yn galluogi ein disgyblion i barhau efo'u dysgu gartref.