ADY
Cartref > Rhieni > Cefnogaeth > ADY
Helpu i wella bywydau pobl niwrowahanol a’u teuluoedd yng Nghymru.
Safle niwrowahaniaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru. Ar y safle fe ddewch o hyd i wybodaeth ynghylch beth yw niwrowahaniaeth, a pa wasanaethau a chyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael ar-lein a ledled Cymru. Mae’r wefan yn helpu darparu gweledigaeth a strategaeth niwrowahaniaeth Llywodraeth Cymru ac mae ganddi ran allweddol mewn sicrhau fod Cymru yn wlad sy’n deall niwrowahaniaeth.
Mae yna hefyd ystod eang o adnoddau y gellir eu lawrlwytho am ddim, sydd wedi cael eu datblygu gyda phobl niwrowahanol, rhieni/ gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru.
Snap Cymru
Elusen annibynnol sy'n darparu gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth a gwasanaethau eiriolaeth diduedd ar gyfer ADY yng Nghymru.
Sense
Mae Sense yn darparu gwybodaeth i rieni plant ag anableddau cymhleth ac ADY. Mae eu gwefan yn esbonio sut mae'r system ADY yn gweithio yng Nghymru a beth i'w wneud os oes angen cymorth ar eich plentyn.
British Dyslexia Association
Y BDA yw prif elusen y DU ar gyfer dyslecsia. Eu gweledigaeth yw byd lle gall pobl dyslecsig ffynnu.
Lleferydd ac Iaith
Mae'r wefan hon yn darparu adnodd i asesu sgiliau lleferydd ac iaith eich plentyn. Gall gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau gyda siarad, deall lleferydd, neu gyfathrebu fel nad ydyn nhw'n cael eu "gadael ar ôl, yn aros i gael eu deall." Maen nhw'n cynnig cyngor, canllawiau ac adnoddau i deuluoedd y mae eu plant yn cael trafferth gyda lleferydd, iaith neu gyfathrebu.