Cyngor Ysgol
Cartref > Plant > Cyngor Ysgol
Dyma ein cyngor ysgol am y flwyddyn. Y Cyngor Ysgol yw llais ein plant, mae ganddynt yr hawl i drafod a gwneud penderfyniadau er mwyn gwella ein hysgol Mae’r cyngor am fod yn trefnu nifer o ddigwyddiadau dros y flwyddyn a fydd yn cael eu harddangos yma.
Dyma ydi prif swyddogaethau ein cyngor ysgol am y flwyddyn:
- Lais i holl blant yr ysgol
- Parhau i wella ein hysgol
- Helpu cadw’r ysgol yn iach a diogel
- Helpu’r plant i fod yn ffrindiau
- Rhoi cyfle i blant ac oedolion rannu eu syniadau
- Trafod syniadau newydd.
- Casglu arian er mwyn helpu elusennau a plant a phobl llai ffodus na ni
- Cyfarch ymwelwyr newydd i’r ysgol a sicrhau bod croeso gan y plant
- Gwneud ein gorau i wneud pawb yn hapus a diogel
- Cyfrannu at bolisïau – e.e polisi disgwyliadau dosbarth a disgwyliadau buarth