Llythrennedd
Cartref > Rhieni > Cefnogaeth > Llythrennedd
Rydym yn credu’n gryf bod angen cysondeb yn nysgu ein disgyblion. Hefyd rydym o’r farn ei bod hi’n bwysig eich bod chi fel rhieni yn gallu cefnogi eich disgyblion adref os oes angen. Mae’r dudalen yma yn dangos nifer o raglenni a gwefannau llythrennedd yr ydym yn eu defnyddio yn yr ysgol y gallech chi eu defnyddio adref.
Darllen Co
Mae Darllen Co yn lwyfan llyfrau darllen digidol Cymraeg ar gyfer ysgolion a theuluoedd yng Nghymru. Rydym yn defnyddio’r wefan yma i ddatblygu darllen ar draws yr ysgol. Mae pob un disgybl wedi derbyn manylion mewngofnodi, bydd yr athrawon yn dyrannu llyfrau ar adegau ond hefyd mae modd i chi ddarllen unrhyw lyfr efo’ch plant neu iddyn nhw ddarllen yn annibynnol. Mae’r llyfrau wedi cael eu rhannu i oedrannau blynyddoedd dysgu o Cam Cynnar+ i Cam 6. Mae darllen gartref yn hollbwysig ond mae'n gallu bod yn heriol ar adegau, yn enwedig os nad ydych yn siarad Cymraeg. Rydyn ni yma i’ch helpu. Gyda’n Porth Rhieni byddwch yn cael mynediad i lawer mwy o adnoddau i roi’r hyder a’r gefnogaeth yr ydych yn eu haeddu er mwyn cefnogi eich plentyn
Tric a Chlic
Mae Tric a Chlic yn wefan ac yn ap sy’n canolbwyntio ar ffoneg, sef dull o addysgu darllen a sillafu. Gall hwn eich helpu i gefnogi eich plentyn gyda’r camau cyntaf i ddarllen. Gall gwybod sut orau i wneud hyn fod yn anodd yn enwedig o ystyried efallai bod dulliau addysgu wedi newid cryn dipyn ers i chi fod yn yr ysgol!
Efallai eich bod yn hollol newydd i raglen ffoneg synthetig fel Tric a Chlic! Peidiwch â phoeni. Yma, medrwch ddod o hyd i syniadau, canllawiau ac adnoddau i’ch cefnogi chi a’ch plentyn yn y cartref.
Mae darllen yn agor drysau i fyd newydd a chyfleoedd newydd. Gwnawn lwyddo gyda’n gilydd
Welsh Reading
Mae Welsh Reading for Parents wedi'i chynllunio'n benodol i helpu rhieni/gofalwyr di-Gymraeg i ymgysylltu â gwaith darllen eu plant gartref.
Wedi'i ddylunio gan rieni yn ystod y cyfnod clo a'i ddatblygu gydag athrawon, ei unig nod yw cefnogi a helpu rhieni a gofalwyr sy'n ei chael hi'n anodd darllen y llyfrau a'r deunyddiau a anfonir adref gyda'u plant yn ystod y Cyfnod Sylfaen yn yr ysgol.
Pori Drwy Stori
Rhaglen ddwyieithog gyffrous ydy Pori Drwy Stori, ar gyfer plant oedran dosbarthiadau Meithrin a Derbyn yng Nghymru, â'r nod o ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a'u sgiliau siarad a gwrando er mwyn cefnogi Dysgu Sylfaen.
Mae’r rhaglen yn darparu adnoddau i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth a gartref, gan annog rhieni i barhau yn eu rôl hanfodol fel partneriaid yn nysg eu plant. Mae rhaglen Pori Drwy Stori’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru
Oxford Owl
Gyda llyfrgell o weithgareddau ac adnoddau ar gyfer pob cam o’r daith ddysgu, wedi’i churadu gan y tîm yn Oxford University Press, rydym yma gydag ysbrydoliaeth i helpu eich rhai bach i ddysgu, tyfu a ffynnu gartref, yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.
Reading Eggs
Mae Reading Eggs yn gwneud dysgu darllen yn ddiddorol ac yn ddeniadol i blant, gyda gemau a gweithgareddau darllen ar-lein gwych.
Mae plant wrth eu bodd â'r gemau, y caneuon, yr wyau aur a gwobrau eraill sydd, ynghyd â theimlo'n falch o'u darllen, yn ysgogi plant i barhau i archwilio a dysgu.