Llythyr i Rieni Ebrill 2025
Cartref > Ysgol > Newyddion > Llythyr i Rieni Ebrill 2025
Annwyl Riant/Gwarchodwr,
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth barhaus, mae hi wedi bod yn dymor hynod brysur yma eto ym Mharc y Bont. Roedd yr eisteddfod yr Urdd yn uchelbwynt o’r tymor wrth i nifer fawr o’n disgyblion gystadlu yn yr eisteddfod dalgylch a rhanbarth gyda chryn dipyn o lwyddiant. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r staff a’r gwirfoddolwyr am eu gwaith caled ac hefyd i chi fel rhieni am eich cefnogaeth brwd.
Bydd tymor olaf y flwyddyn y cychwyn ddydd Llun Ebrill 28ain a’n gorffen ddydd Gwener 18fed o Orffennaf gyda hanner tymor diwedd mis Mai.
Mae tymor yr Haf yn un hynod cyffroes gyda phrofiadau a digwyddiadau di-ri wedi cael eu trefnu ac ar ganol cael eu trefnu.
Dyma restr o ddyddiadau pwysig dros yr hanner tymor nesaf hyd yma, byddwn yn eich hysbysu os oes unrhyw newid a’n egluro unrhyw drefniadau yn agosach i’r amser. Bydd mwy o ddigwyddiadau yn cael eu rhannu efo chi wrth i’r trefniadau a’r dyddiadau gael eu cadarnhau.
28/4/25 – Ysgol yn ail agor
30/4/25 – Sesiwn Creadigol efo Gwion Aled – Bl 5 a 6
1/5/25 – Diwrnod Sgiliau Labordy – Bl 5 a 6
1/5/25 – Clwb Chwaraeon ar ôl ysgol – Disgyblion sydd wedi cofrestru
5/5/25 – Gwyl y banc – DIM YSGOL
7/5/25 – Sesiwn Creadigol efo Gwion Aled – Bl 5 a 6
8/5/25 – Clwb Chwaraeon ar ôl ysgol – Disgyblion sydd wedi cofrestru
8/5/25 - Traws Gwlad Terfynol Ysgolion Cynradd Ynys Môn
13/5/25 – Sesiwn creadigol efo Eleri Jones – Bl 5 a 6
14/5/25 – Sesiwn Creadigol efo Gwion Aled – Bl 5 a 6
15/5/25 – Diwrnod Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2025
15/5/25 – Clwb Chwaraeon ar ôl ysgol – Disgyblion sydd wedi cofrestru
19-23/5 – Wythnos Chwaraeon – Pawb
19/5/25 – Swish Basketball – Pawb
20/5/25 - Mabolgampau - Pawb
21/5/25 – Sesiwn Creadigol efo Gwion Aled – Bl 5 a 6
21/5/25 – Dawns i Bawb – Derbyn – Blwyddyn 6
22/5/25 – Hoci – Pawb
22/5/25 – Clwb Chwaraeon ar ôl ysgol – Disgyblion sydd wedi cofrestru
23/5/25 – Ysgol yn cau ar gyfer hanner tymor
2/6/25 – Diwrnod HMS – DIM YSGOL I’R DISGYBLION
3/6/25 - Sesiwn Sgleinio’r Lleuad – M – Bl 4
4/6/25 – Sesiwn Creadigol efo Gwion Aled – Bl 5 a 6
16 – 17/6/25 – Glan Llyn – Taith breswyl Bl 3 a 4
17 – 19/6/25 – Diwrnodau Trosglwyddo Bl 6 i YDH
19/6/25 – Diwrnod Trosglwyddo Ysgol Gyfan – Pawb yn symud i fyny blwyddyn am y diwrnod
25/6/25 – Ffair/Dathliad Haf
26/6/25 – Trip i Gypsy Wood – Meithrin a Derbyn
2-4/7/25 – Llangrannog – Taith breswyl Bl 5 a 6
7/7/25 – Adroddiadau diwedd flwyddyn yn cael eu rhannu
8/7/25 – Noson Agored – Pawb
10/7/25 – Trip i Gulliver’s World – Bl 1 – 6
18/7/25 – Ysgol yn cau am yr Haf
Hoffwn ddymuno Pasg hapus i chi gyd, mwynhech y gwyliau a’r seibiant ac edrychaf ymlaen i’ch croesawu chi gyd yn ôl ar ôl y gwyliau.
Cofion cynnes,
Rhys Ynyr Jones